ÌÇÐÄVlog

Alert Section

Cynnig y Ddarpariaeth Addysg Gatholig


Mae’r Cyngor yn ymgynghori ar gynnig i Ad-drefnu'r Ddarpariaeth Addysg Gatholig yn Sir y Fflint.

Mae’r cynnig yn ffurfio rhan o ymagwedd strategol ar gyfer addysg Gatholig yn Sir y Fflint dan arweiniad Esgobaeth Gatholig Wrecsam (“yr Esgobaeth”).  Dan arweiniad yr Esgobaeth mewn partneriaeth gyda’r Cyngor, mae’n ymateb i ystod o heriau sylweddol sy’n effeithio ar y sector Catholig yn lleol.

Nod y strategaeth yw darparu cyfeiriad hirdymor clir a chynnig addysg Gatholig sy’n gynaliadwy, cadarn ac o ansawdd uchel ar gyfer plant a theuluoedd Sir y Fflint, yn awr ac yn y dyfodol.  Mae’r cynnig hwn yn canolbwyntio ar:

  • Leihau nifer y lleoedd gwag sy’n gwyro adnoddau oddi wrth y ddarpariaeth rheng flaen ar gyfer y disgyblion.
  • Gwella amgylchedd dysgu mewn rhai ysgolion.
  • Atgyfnerthu trefniadau arweinyddiaeth ysgolion er mwyn i bob disgybl elwa o gynnig addysgol ansawdd uchel.
  • Darparu cynnig cwricwlwm llawn ar gyfer plant 3-18 oed.
  • Datblygu addysg Gymraeg o fewn cyd-destun Catholig ymhellach.
  • Gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. 

Mae’r cynnig a ddatblygwyd gan yr Esgobaeth yn rhoi cyfle i’r Cyngor adolygu’r ddarpariaeth addysg Gatholig yn Sir y Fflint.  Cyflwynodd yr Esgobaeth eu cynnig i’r Cyngor a gofyn am gefnogaeth i weinyddu’r broses ymgynghori. 

Mae’r Cyngor yn cynnig: 

  • Cau Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Anthony yn Saltney erbyn 31 Awst 2027.
  • Uno Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Dewi Sant yn yr Wyddgrug, Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir y Santes Fair yn y Fflint ac Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn yn y Fflint.
  • Byddai’r uno’n golygu:
    • y byddai’r ysgolion unigol yn cau erbyn 31 Awst 2027
    • y byddai ysgol Gatholig wirfoddol a gynorthwyir 3-18 oed cyfrwng Saesneg newydd gydag enw a rhif ysgol newydd, yn agor ar 1 Medi 2027
    • y byddai’r ysgol newydd yn gweithredu dros y tri safle presennol nes bydd adeilad ysgol newydd yn cael ei adeiladu (rhagwelir Medi 2030)

Mwy o wybodaeth

Bydd y cyfnod ymgynghori yn agor ddydd Mawrth 16 Mehefin 2026 ac yn dod i ben am 11.59pm ddydd Mercher 29 Gorffennaf 2026.

Gellir dod o hyd i gopi o’r ddogfen ymgynghori yma.

Dogfen Ymgynghori

Mae dogfennau i Blant a Phobl Ifanc a Hawdd eu Darllen ar gael hefyd.

Dogfen i Blant a Phobl Ifanc

Dogfen Hawdd ei Darllen 

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad hwn drwy lenwi’r holiadur ar-lein sydd ar gael yma:

Holiadur Ar-lein -

Os oes arnoch angen copi papur o’r ddogfen cysylltwch â’r tîm gan ddefnyddio’r manylion isod. Fel arall, gallwch ymateb yn ysgrifenedig drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Tîm Moderneiddio Ysgolion

Cyngor Sir y Fflint

Tŷ Dewi Sant

Ewlo

Sir y Fflint

CH5 3XT

E-bost: CatholicEducationConsultation@flintshire.gov.uk

Rhif ffôn: 01352 704018 neu 01352 704014

Mae fersiynau print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill o’r ddogfen ar gael drwy gais drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. 

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwch yn cael ymateb yn yr un iaith. Ni fydd y defnydd o’r naill iaith yn arwain at oedi.

Mae Asesiad o Effaith Integredig hefyd wedi cael ei baratoi ac mae modd ei ddarllen a’i lawrlwytho yma.

Asesiad o Effaith Integredig

Mae Asesiad o Effaith ar y Gymraeg hefyd wedi cael ei baratoi ac mae modd ei ddarllen a’i lawrlwytho yma.

Asesiad o Effaith ar y Gymraeg 

Mae Asesiad o Effaith ar y Gymuned hefyd wedi cael ei baratoi ac mae modd ei ddarllen a’i lawrlwytho yma.

Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned

Mae Asesiad Effaith Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) hefyd wedi’i baratoi, a gellir ei weld a’i lawrlwytho yma.

Asesiad Effaith ADY

Nid yw’r Cyngor yn bwriadu cynnal unrhyw ddigwyddiadau galw heibio i’r cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad hwn.

Yn lle hynny, gellir anfon cwestiynau drwy e-bost i CatholicEducationConsultation@flintshire.gov.uk a bydd Swyddogion y Cyngor yn ceisio ymateb i gwestiynau ynglŷn â’r broses cyn pen saith o ddiwrnodau.