Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Codi Baner y Lluoedd Arfog yn Nhy Dewi Sant i nodi Wythnos y Lluoedd Arfog
Published: 24/06/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi nodi wythnos y Lluoedd Arfog drwy godi Baner y Lluoedd Arfog yn Nhy Dewi Sant yn Ewlo.Â
Ymunodd y Cynghorydd Ted Palmer, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, Arglwydd Raglaw Clwyd, Uchel Siryf Clwyd, chyn-filwyr, milwyr wrth gefn o uned Queensferry â Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Mel Buckley. 
Daeth y Cynghorwyr a gwesteion ynghyd i anrhydeddu dewrder, ymroddiad a gwasanaeth parhaus personél y Lluoedd Arfog, o’r gorffennol a’r presennol.Â
Meddai’r Cynghorydd Mel Buckley: “Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn rhoi ennyd bwysig i ni oedi a chydnabod yr ymrwymiad eithriadol sy’n cael ei ddangos tuag at y rhai sy’n gwasanaethu, y rhai sydd wedi gwasanaethu a’r teuluoedd sy’n eu cefnogi nhw.Â
“Roedd codi’r faner yn Nhy Dewi Sant yn achlysur balch ac ystyrlon i bob un ohonom, ac roedd yn brofiad gwefreiddiol cael cyn-filwyr a milwyr wrth gefn lleol yn ymuno â ni.
“Mae eu presenoldeb yn ein hatgoffa o'r ymroddiad, y proffesiynoldeb a'r aberth sy'n sail i gymuned y Lluoedd Arfog, ac rydym fel Cyngor yn falch o ailddatgan ein cefnogaeth barhaus."
Meddai’r Cynghorydd Ted Palmer: “Mae ein Lluoedd Arfog yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o warchod cymunedau, ymateb i argyfyngau a chynrychioli’r gorau yn ein gwlad, gartref ac ar draws y byd.
“Roedd yn anrhydedd sefyll ochr yn ochr â chyn-filwyr, milwyr wrth gefn a chydweithwyr wrth i ni godi’r faner yn Nhy Dewi Sant.
“Mae Sir y Fflint yn falch o’i chymuned y Lluoedd Arfog ac rydym yn parhau’n gadarn ein cefnogaeth ar gyfer y rhai sy’n gwasanaethu a’r rhai sydd wedi gwasanaethu, yn ogystal â’r teuluoedd sy’n gefn iddynt.â€Â
Bydd Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yn cael ei nodi ddydd Sadwrn yma, 27 Mehefin a chaiff ei gynnal eleni gan Gyngor Sir Gâr.Â