ÌÇÐÄVlog

Alert Section

Cadeirydd y Cyngor


Y Cadeirydd yw arweinydd seremonïol dinesig y Cyngor.  Mae’n rhaid i’r Cadeirydd fod yn Gynghorydd Sir presennol, ond fel ddylai barhau’n wleidyddol ddiduedd wrth gyflawni ei rôl. Ni ddylai Cadeirydd fod yn aelod o’r Cabinet.

Caiff y Cadeirydd ei ethol yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhelir ym mis Mai bob blwyddyn. 

Gall y rôl hon fod yn heriol iawn a bydd y Cadeirydd fel arfer yn mynychu dros 400 - 500 o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn. 

Y Cadeirydd ar gyfer 2026/27 yw’r , sef ei hail dymor yn y swydd. 

Ciplun o'r Cynghorydd Mel Buckley

Mae’r Cynghorydd Mel Buckley wedi cael ei phenodi’n Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint am yr ail gyfnod.

Mae’r Cynghorydd Buckley’n cynrychioli Ward Oakenholt, y Fflint, ar y lefel drefol a’r lefel sirol, a chyn hynny roedd yn gynghorydd tref dros Ward Trelawny, y Fflint.

Mae’r Cynghorydd Buckley wedi bod yn Faer tref y Fflint ddwywaith ac wedi gallu codi symiau da o arian ar gyfer achosion lleol teilwng iawn y ddau dro.

Mae’r Cynghorydd Buckley’n gefnogwr brwd i Glwb Pêl-droed Merched Tref y Fflint a Chôr Merched y Fflint, lle bu’n Gadeirydd am sawl blwyddyn. 

Fe wnaeth y Cynghorydd Buckley drefnu a chodi arian ar gyfer Balchder y Fflint a gynhaliwyd yn 2024 i hyrwyddo undod a chynhwysiant yn ein cymunedau.

Mae’r Cynghorydd Buckley’n mwynhau harddwch natur a bydd i’w gweld yn aml yn cerdded yn yr awyr agored gyda’i chihuahua blewyn-hir ffyddlon, Shep.

Mae gan y Cynghorydd Buckley un ferch sy’n gwasanaethu yn y Llynges ar hyn o bryd.

Mae gan y Cadeirydd rôl allweddol o fewn y Cyngor, gan gynnwys:

  • gweithredu fel arweinydd dinesig gwleidyddol diduedd Sir y Fflint a chynnal gwerthoedd democrataidd y Cyngor
  • hyrwyddo amcanion a gwasanaethau’r Cyngor Sir a hyrwyddo proffil Sir y Fflint ei hun
  • gweithredu fel llysgennad y Cyngor Sir a Sir y Fflint
  • maethu hunaniaeth ac urddas cymunedol
  • cydnabod unigolion a sefydliadau sydd wedi dod â llwyddiant i’r sir

Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau eraill, megis:

  • llywyddu cyfarfodydd y Cyngor i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n effeithlon, gan roi ystyriaeth i hawliau Cynghorwyr a buddiannau'r gymuned
  • mynychu digwyddiadau Dinesig a Seremonïol
  • gwahodd unigolion a chynrychiolwyr sefydliadau i ddigwyddiadau yn Neuadd y Sir a lleoliadau eraill

Ar ddechau’r flwyddyn, gall y Cadeirydd enwebu elusen neu elusennau i elwa o’r arian a gasglwyd yn ystod eu blwyddyn yn y swydd. Yr elusennau y mae’r Cadeirydd wedi’u dewis eleni yw:

  • Giddo's Gift
  • Kim Inspire

Yr Is-gadeirydd ar gyfer 2026/27 yw’r .

Ciplun o’r Cynghorydd Steve Copple

Mae’r Cynghorydd Steve Copple wedi’i benodi’n Is-Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.

Mae’r Cynghorydd Copple wedi bod yn aelod etholedig ers 2022, gan gynrychioli Ward Caerwys.

Mae wedi gwasanaethu ar sawl pwyllgor yn cynnwys Newid yn yr Hinsawdd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

Mae’r Cynghorydd Copple yn aelod o Gyngor Tref Caerwys a bu’n Faer ddwywaith.

Mae hefyd yn llywodraethwr yn Ysgolion Cynradd Licswm a Chaerwys.  Ef yw Cadeirydd presennol y Caerwys Chronicle, cylchgrawn cymunedol lleol.

Yn y gorffennol, mae wedi bod yn ymatebwr cyntaf i Wasanaeth Ambiwlans Cymru a bu’n gweithio fel gwirfoddolwr gyda Chyngor ar Bopeth am sawl blwyddyn wedi iddo ymddeol o’r diwydiant olew a nwy. 

Mae Stephen yn briod â Jane ac mae ganddo dair o ferched a phedwar o wyrion a wyresau. 

Cymar y Cynghorydd Copple fydd ei wraig, Mrs Jane Copple.

Mae’r Cadeirydd yn croesawu grwpiau Cynghorau ysgol, grwpiau Elusennol ac ati i ymweld ag o / hi yn Neuadd y Sir yn Ewlo.  Gwahoddir gwesteion i lolfa’r Cadeirydd ac am daith o amgylch y Siambrau.  Byddai’n bleser gan y Cadeirydd ymweld â thrigolion yn Sir y Fflint hefyd sy’n dathlu eu penblwyddi yn 100 oed, cerrig milltir arbennig neu fynychu digwyddiadau agoriadol, busnesau neu achlysuron elusennol. 

Os ydych yn dymuno gwahodd y Cadeirydd i fynychu digwyddiad yr ydych wedi’i drefnu, cysylltwch â: :

Mrs. Karen Jones 
Swyddog Gwasanaethau Dinesig ac Aelodau
Cyngor Sir y Fflint, Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF.

Rhif ffôn: 01352 702152
E-bost: chairman.assistant@flintshire.gov.uk

Llwyddodd Cadeirydd 2025/26, y Cynghorydd Mel Buckley, i godi £5,060 i’w helusennau enwebedig: 

  • The Counselling Hub
  • Giddo's Gift

Cyngor Sir y Fflint - Cyn-Gadeiryddion

  • 1996 – 1996 Mrs. I. Fellow M.B.E. J.P
  • 1996 – 1998 Mr. H.O. Clarke
  • 1998 – 1999 Mr. W.A. Jones J.P
  • 1999 – 2000 Mr. I.L. Roberts M.B.E. J.P
  • 2000 – 2001 Mr. T.W. Jones O.B.E
  • 2001 – 2002 Mrs. A. Slowik
  • 2002 – 2004 Mr. J. Ovens
  • 2004 – 2005 Mr. K.W. Richardson
  • 2005 – 2006 Mr. P.J. Curtis
  • 2006 – 2007 Mr. D. Barratt
  • 2007 – 2008 Mrs. A. Minshull
  • 2008 – 2009 Mr. Q.R.H. Dodd
  • 2009 – 2010 Mr. C. Legg
  • 2010 – 2011 Mr. W.O. Thomas
  • 2011 – 2012 Mrs. H. McGuill
  • 2012 – 2013 Mrs. A. Minshull J.P
  • 2013 – 2014 Mrs. C.Thomas
  • 2014 – 2015 Mrs. G.D. Diskin J.P
  • 2015 – 2016 Mr. R. Hughes
  • 2016 – 2017 Mr. P. J. Curtis
  • 2017 – 2018 Mr. R. B. Lloyd
  • 2018 – 2019 Mr. P. Cunningham
  • 2019 – 2021 Mrs. M. Bateman
  • 2021 – 2022 Mr. J. Johnson
  • 2022 – 2023 Mrs. M. Eastwood
  • 2023 – 2024 Mrs. G. Healey
  • 2024 – 2025 Mr. D. Hutchinson