Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Myfyrwyr yn tyrchu drwyâr archifau
Published: 06/07/2017
Roedd Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint yn falch i groesawu chwech o fyfyrwyr o
Ysgol Uwchradd Penarlâg yn ddiweddar.
Treuliodd y myfyrwyr ran oâr amser yn rhestru cofnodion mewn bocs o Gasgliad
Plwyf Penarlâg. Maeâr cofnodion hyn yn rhan o bortffolio a gasglwyd gan y Parch
Stephen Gladstone, rheithor Penarlâg rhwng 1872-1904 ac maeân cynnwys posteri,
rhaglenni, toriadau newyddion, tocynnau a threfnau gwasanaethau. Mae hwn yn
gasgliad hynod ddiddorol i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Penarlâg.
Roedd y myfyrwyr yn y Swyddfa Gofnodion fel rhan o gydran wirfoddol Bagloriaeth
Cymru. Y thema eleni oedd âYr Amgylcheddâ felly aethant ati i gyfunor gwaith
yn y swyddfa gydag ychydig o arddio. Er y tywydd ofnadwy, cliriodd y myfyrwyr
y chwyn ar hyd y lĂ´n at yr Hen Reithordy a thorriâr gwrychoedd oedd yn estyn
dros y llwybr gan wneud yr ardal yn ddiogel ar gyfer ein cwsmeriaid.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
âRoedd yn wych gweld y Swyddfa Gofnodion yn croesawuâr myfyrwyr o Ysgol
Uwchradd Penarlâg. Gweithiodd y criwân galed dros y 2 ddiwrnod ac roeddent yn
amlwg yn mwynhau gweld y dogfennau yn y casgliad. Cawsant hefyd y cyfle i
astudio rhai oâr dogfennau eraill yn ymwneud ââu hysgol, a bydd copĂŻau oâr
rheini yn rhan oâu portffolio o dystiolaeth.â
Dywedodd y Prif Archifydd, Claire Harrington:
âMae gan y Swyddfa Gofnodion gyfoeth o ffynonellau cynradd, ar draws ystod
eang o destunau, a all helpu myfyrwyr gydaâu hastudiaethau a byddem yn eu
hannog i gael golwg ar ein gwefan a chwilio drwy ein cronfeydd data i weld a
oes gennym unrhyw beth a allai helpu gydag unrhyw brosiect penodol.â
Os hoffech chi wneud apwyntiad i weld y casgliad hwn, cysylltwch ââr Swyddfa
Gofnodion gan ddyfynnu cyfeirnod P/28/1/91. Maeâr Swyddfa Gofnodion wedi ei
lleoli yn yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg a gellir cysylltu â nhw drwy ffonio
01244 532364 neu anfon e-bost i archives@flintshire.gov.uk.