ĚÇĐÄVlog

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol

Published: 01/08/2022

Digital Strategy page W.JPGMae’r canlyniadau wedi cyrraedd ar ôl ein hymgynghoriad ynghylch ein Strategaeth Ddigidol, ac rydym wedi gwrando arnoch.

Yn Ă´l yr hyn a ddywedodd yr ymatebwyr mae pedwar o brif bethau i ganolbwyntio arnynt. Byddwn yn mynd i’r afael â’r materion hynny fel rhan o brosiectau neu themâu sy’n rhan o’r Strategaeth Ddigidol a byddwn yn dal i roi blaenoriaeth iddynt wrth fynd yn ein blaenau.Ěý

Ceir crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriad .Ěý I weld y canlyniadau’n llawn, .ĚýĚý

Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys:

  • Sicrhauna chaiff pobl na fedr ddefnyddio gwasanaethau ar-lein eu heithrio;
  • Helpu pobl i gysylltu â’r byd digidol drwy ddarparu mynediad at gysylltiadau, dyfeisiau a hyfforddiant;
  • Gweithio i wella cysylltedd yn y Sir.

Yn y blog ac ar wefan y Strategaeth Ddigidol rydym yn egluro sut rydym yn mynd i’r afael â’r rhain.

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

“Rydym wedi gwrando arnoch chi ac wedi llunio Strategaeth gadarn i ddatblygu ein gwasanaethau digidol gan sicrhau nad ydym yn gadael neb ar Ă´l.Ěý ĚýFe ofynnoch chi am wasanaethau ar-lein hawdd eu defnyddio a gwybodaeth berthnasol ar ein gwefan, ac rydym hefyd wedi cyflwyno elfennau cyfoes i’r wefan.

“Mae’r rheiny’n cynnwys “canolbwyntiau” lle mae’n haws dod o hyd i wybodaeth berthnasol.Ěý Yn eu plith mae’r , Etholiadau a a byddwn yn ychwanegu mwy drwy’r amser – cadwch lygad am y Canolbwynt Tai newydd cyn bo hir!”

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â chynlluniau digidol y Cyngor, mae croeso ichi gysylltu â communication@flintshire.gov.uk.

Os nad ydych wedi gwneud yn barod, beth am gofrestru i gael newyddion rheolaidd am y Cyngor drwy e-bost? Gallwch gael cip .

Ěý