Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Peidiwch â ffonio a gyrru
Published: 09/11/2016
Mae tĂŽm Diogelwch Ar Y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch llym ar
fodurwyr syn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru.
Cynhelir yr ymgyrch gorfodaeth Cymru Gyfan o ddydd Llun, 7 Tachwedd tan ddydd
Sul, 20 Tachwedd, ac maeân annog holl ddefnyddwyr y ffordd i âgadw eu llygaid
ar y fforddâ a pheidio â gadael iâw ffonau dynnu eu sylw.
Yn ystod yr ymgyrch, bydd swyddogion yn siarad gyda gyrwyr ynghylch peryglon o
ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru, a hefyd y peryglon o gael eu sylw wedi ei
dynnu pan maent tu Ă´l y llyw. Bydd swyddogion yn stopio modurwyr syân cael eu
dal yn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru a gall unrhyw droseddwyr ddisgwyl
cael dirwy o ÂŁ100 a thri phwynt ar eu trwydded.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Y Fflint
âRydym yn cydnabod bod mwyafrif uchel oâr cyhoedd eisiau defnyddior rhwydwaith
ffordd i fynd o A i B yn ddiogel, a nid ydynt eisiau bod yn agored i berygl
diangen oherwydd gweithredoedd eraill. Wrth yrru cerbyd mae angen gallu gwneud
llawer o dasgau, felly mae unrhyw beth arall angen aros nes yr ydym wedi
parcion ddiogel neu nes bydd eich taith wedi dod i ben.
Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd
Cymru: âGall hyd yn oed gyrwyr profiadol a chymwys cael eu sylw wediâi dynnu yn
hawdd a gall diffyg canolbwyntio arwain at ganlyniadau difrifol. Mae ffonau
clyfar yn rhan allweddol o fywyd modern, hefyd rydym yn gweld gyrwyr yn cael eu
sylw wediâu tynnu pan maent yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol, darllen e-byst
neuân mynd ar y rhyngrwyd. Mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol bod gan y
gweithredoedd hyn yr un perygl aâr un gosb.
âMae ein prif neges yn glir; cadwch eich llygaid ar y ffordd. Gall ddiffyg
canolbwyntio wrth yrru fod yn ddinistriol, a dymar rheswm bod swyddogion oân
pedwar heddlu yng Nghymru yn mynd ar batrĂ´l rhagweithiol i dargedu modurwyr
sydd yn rhoi defnyddwyr y ffordd mewn perygl yn y modd hwn.â
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch #OOpSnap yn ddiweddar, menter syân
caniatĂĄu tystiolaeth fideo a ffotograffau gael eu hanfon atom gan bobl sydd
wedi tystio unrhyw droseddau gyrru.