Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pobl leol yn nofio am y fedal aur
Published: 02/09/2016
Cynhaliodd Clwb Nofior Fflint ddigwyddiad âHyfforddi fel Cystadleuydd
Olympaiddâ yn ddiweddar gydaâr nod o gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y gymuned
leol.
Roedd y digwyddiad yn rhan o âI Am Team GB - ymgyrch cenedlaethol sydd wedi
ysbrydoli miloedd o glybiaur DU i agor eu drysau i gyfranogwyr newydd.
Dywedodd Sunita Patel, prif hyfforddwr y clwb nofio:
âRoeddem yn hynod o falch o groesawu cynifer o bobl iâr digwyddiad gwych hwn a
bod yn rhan o âI Am Team GBâ. Mae chwaraeon yn dod â chymunedau yn agosach at
ei gilydd ac roeddem yn falch iawn yng Nghlwb Nofior Fflint o fod yn rhan o
ddathliad cenedlaethol chwaraeon. Roedd cyfle i bobl weld sut yr oeddent yn
edrych o dan y dwr, rhoi cynnig ar nofio bynji a rasio fel cystadleuydd yn y
gemau Olympaidd!
âRydym yn edrych ymlaen at ein taith profiad Olympaidd i ganolfan ddyfrol
Llundain yn y Parc Olympaidd y mis hwn. Bydd hyn yn rhoi cyfle iân nofwyr brofi
ychydig oâr hyn y gall nofiwr Olympaidd ei wynebu.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Gwasanaethau Hamdden:
âMaeân wych fod clybiau chwaraeon lleol yn derbyn y cyfle i hyrwyddo eu camp,
yn enwedig yn dilyn llwyddiant gwych ein merch leol, Jade, yn ddiweddar.
Roedd hwn yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd a cheisio cyflawni
potensial yr holl rai syn breuddwydio am fod yn gystadleuydd Olympaidd neu
Baralympaidd.
Os ydych chi wediâch ysbrydoli ac eisiau gwybod sut i gymryd rhan, cysylltwch â
Chlwb Nofioâr Fflint ar coachflintasc@hotmail.com.
Llun: Plant yn mwynhau digwyddiad Hyfforddi fel Cystadleuydd Olympaiddâ