Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Drysau Agored - tu ôl ir llenni yn yr Hen Reithordy a llwybrau Pentref Penarlâg
Published: 16/08/2016
Ddydd Sadwrn 10 Medi mae Archifdy Sir y Fflint, yn seiliedig yn yr Hen
Reithordy, Penarlâg, yn cymryd rhan yn âDrysau Agoredâ, digwyddiad Cymru gyfan
a drefnir gan Cadw. Mae Drysau Agored yn cynnig y cyfle i bobl leol ac ymwelwyr
fel ei gilydd archwilio trysorau cudd o ddiwylliant a hanes Cymru.
Maeâr Hen Reithordy yn adeilad or 18fed ganrif yn ei diroedd ei hun, a oedd yn
gartref i Reithoriaid Penarlâg ers canrifoedd. Am y 60 mlynedd diwethaf, mae
wedi bod yn gartref i Archifdy Sir y Fflint, syn ceisio diogelu treftadaeth
archifol unigryw y sir a sicrhau ei bod ar gael ir cyhoedd.
Bydd y digwyddiad Drysau Agored yn cynnwys arddangosfa am adeiladau hanesyddol
ym Mhenarlâg (gan gynnwys yr Hen Reithordy); teithiau âtu Ă´l ir llenniâ yr Hen
Reithordy i weld lle mae archifaur Sir yn cael eu cadw; ymweliadau âr stiwdio
Cadwraeth i weld sut maer archifau unigryw ac na ellir eu disodli yn cael eu
cadw; a theithiau cerdded o amgylch pentref Penarlâg yn dilyn llwybr adeiladau
hanesyddol, dan arweiniad aelod gwybodus o staff.
Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid;
âMae hwn yn gyfle gwych ir cyhoedd gael gwybod mwy am y prosesau, sgiliau ac
arbenigedd sydd eu hangen i gadw archifauâr Sir ac i gael gwybod mwy am y
drysor pensaernĂŻol sef yr adeilad aâr gosodiad lle caiff y gwaith pwysig hwn ei
wneud.â
Teithiau Llwybr Pentref - 10.00am a 1.00pm - rhaid archebu
Y tu Ă´l ir llenni a theithiau cadwraeth - 10.30am, 11.45am ac 1.00pm â rhaid
archebu
I archebu a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â 01244 532364; e-bost:
archives@flintshire.gov.uk neu Yr Hen Reithordy,
Lôn y Rheithordy, Penarlâg, Sir y Fflint, CH5 3NR