Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn dathlu merched yn adeiladu
Published: 08/03/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth
eleni drwy ddathlu merched yn adeiladu.
Yn y DU, mae merched yn cyfrif am ddim ond 11% or gweithlu adeiladu, a dim ond
1% o weithwyr ar safle, yn Ă´l ffigurau ar wefan UCATT (Undeb Adeiladu, Crefftau
Perthynol a Thechnegwyr). Maer Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod nifer y
merched syn gweithio fel towyr, bricwyr a gwydrwyr mor isel ei fod yn
anfesuradwy.
Mae Sir y Fflint yn mynd yn groes ir duedd hon, gyda 25% ou tîm Gwaith
Cyfalaf yn ferched. Maer tîm hwn yn gweithio ar Raglen Safon Ansawdd Tai
Cymru (SATC), er mwyn sicrhau bod yr holl dai cyngor yn cyrraedd y safon erbyn
2020. Mae gan dîm atgyweirio a chynnal a chadw Sir y Fflint drydanwr benywaidd
cyntaf y Cyngor hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai:
“Rwyn falch o ddweud bod Cyngor Sir y Fflint ar y blaen o ran annog merched i
weithio yn y diwydiant adeiladu. Nid yn unig y mae gennym ferched yn ein tîm
Gwaith Cyfalaf, ond rydym hefyd yn gweithio gydan partneriaid a’n contractwyr
i ysbrydoli merched ifanc i fanteisio ar y nifer o brentisiaethau sy’n cael eu
creu yn y sir.”
Dyma rai ou straeon:
Dywedodd Karen Stevens, Swyddog Cyswllt Tenantiaid:
“Dechreuais y rôl hon ym mis Awst 2015 ac mae gen i gefndir mewn rheoli tai.
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl a’u helpu, ac rwy’n gallu gweld pan
fydd pobl yn cael trafferth gyda thasgau o ddydd i ddydd neu’n cael
anawsterau. Rwyn treulio 80% or amser ar y safle, boed hi’n law, cenllysg
neu hindda ac rwyf wrth fy modd.”
Mae Hazel Oliver hefyd yn Swyddog Cyswllt Tenantiaid. Dechreuodd weithio ym
maes Atgyweirio Tai 12 mlynedd yn Ă´l, gan symud ymlaen drwy waith prisio a
chynllunio cyn symud iw rĂ´l bresennol. Treuliodd beth amser yn y sector
preifat, fel contractwr a chyflenwr, a roddodd fewnwelediad da iddi i agweddau
gwahanol o’r busnes. Ar hyn o bryd, mae hin gweithio gyda dau gontractwr ar y
rhaglen newid Ystafelloedd Ymolchi a systemau Gwresogi, or arolwg cychwynnol
hyd at gwblhau’r gwaith. Meddai:
“Byddaf yn ymweld âr eiddo yn rheolaidd yn ystod cyfnod y gwaith. Maen waith
sy’n rhoi llawer o foddhad i mi. Maer rhan fwyaf o fy amser yn cael ei dreulio
allan ar y safle ac rwyn cael cwrdd â llawer o bobl wych ar hyd y ffordd.”
Dywedodd Christine Stewart, Archwilydd System SATC:
“Symudais ir tîm Gwaith Cyfalaf or ganolfan gyswllt Atgyweirio a Chynnal a
Chadw – gan ddelio bob dydd gyda thenantiaid, gweithwyr cefnogi, peirianwyr
cynnal a chadw a chontractwyr. Roedd hyn yn brofiad ardderchog ar gyfer fy
swydd bresennol lle rwyn gwirio, coladu a bwydo gwybodaeth i mewn ir Rhaglen
Gwaith Cyfalaf, gan sicrhau bod y data yn gywir ac yn gyfredol. Mae bod yn y
swyddfa yn golygu y gallaf fod yn bwynt
cyswllt ar gyfer ymholiadau tenantiaid, contractwyr a llu o asiantaethau mewnol
ac allanol eraill, syn ychwanegu dimensiwn ychwanegol at fy rĂ´l.
“Rwyf wir yn mwynhau pob agwedd ar fy ngwaith, maen amrywiol, rydym yn dîm
gwych ac nid oes byth eiliad ddiflas.”