Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Maniffesto CLlLC
Published: 14/01/2016
Cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ei Maniffesto ar gyfer
llywodraeth leol yn ddiweddar, sef âLleoliaeth 2016-21â. Cynllun syân cynnwys
40 o bwyntiau yw hwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac feâi
cyhoeddwyd cyn etholiadauâr Cynulliad Cenedlaethol a gaiff eu cynnal fis Mai
2016.
Mae Maniffesto CLlLC yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonioâi gweledigaeth ar
gyfer swyddogaethau a chyfrifoldebau llywodraeth leol, ei chynlluniau ar gyfer
diwygio llywodraeth leol, a sut y mae am sicrhau cyllid teg a hyblyg aâi
hymrwymiad i âSybsidiareddâ, syân rhagdybio y caiff pwer ei drosglwyddo iâr
lefel honno o lywodraeth sydd agosaf at y bobl.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor,
Cawsom gryn gefnogaeth iân sylwadau pendant a chytbwys a gyflwynwyd i
Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi ddeall y problemau syân wynebuâr Cyngor aâi
helpu i ymdopi â nhw. Mae hyn yn adlewyrchu momentwm cynyddol o blith
unigolion, grwpiau a sefydliadau i weithio gyda ni i ddiogelu gwasanaethau a
chyfleusterau hanfodol.
âYn ei setliad dros dro a gyflwynodd i lywodraeth leol, maeân amlwg bod
Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr achos cryf a gyflwynodd CLlLC dros arafuâr
toriadau a chafodd hynny ei groesawuân eang.
âMae gan Lywodraeth Cymru rĂ´l strategol genedlaethol glir, ond mae Sir y Fflint
a chynghorau eraill yn awyddus i weld pwysau cynyddol i ddatganoli pwerau i
lywodraeth leol a chymunedau lleol.â
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Ionawr, bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried
gwahoddiad gan CLlLC i gefnogi ei faniffestoân ffurfiol ac i ymuno â CLlLC a
chynghorau eraill i weithio gydaâr Llywodraeth newydd a gaiff ei hethol yng
Nghymru fis Mai iâw hannog i fabwysiadu cynigion y Maniffesto yn ei pholisĂŻau
aâi chynlluniau ariannu.