ĚÇĐÄVlog

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant ar gwrs Arweinwyr Ifanc

Published: 18/01/2019

Young Leaders group shot.JPG

Arweinwyr Ifanc: Shannon Roberts, David Peters, Eboni James, Cerys Lyons, Ryan Hughes, Kaelin Corran, Abby Tudor, Phoebe Woodward, Connor Roberts, Owen Butler

Ěý

Ěý

Ěý

Ěý

Ěý

Ěý

Yn ddiweddar mae Cyngor Sir y Fflint a Phrifysgol Glyndwr Wrecsam wedi bod yn cydweithio er mwyn cynnal y cwrs “Arweinwyr Ifanc” cyntaf.Ěý

Datblygwyd y cwrs gan Ann Roberts, Uwch-reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint, er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg arweinwyr ifanc cymwysedig ar gyfer gwaith darpariaeth ieuenctid y dyfodol.Ěý

Mae Glyndwr wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Sir y Fflint i sicrhau bod y cwrs peilot yn darparu hyfforddiant unigryw i'r holl bobl ifanc sy’n rhan ohono. Roedd y cwrs yn cynnwys pum niwrnod o astudio.ĚýĚý

Cafodd y bobl ifanc eu recriwtio o glybiau ieuenctid lleol a darpariaeth y sector ieuenctid. Roedd yn bwysig iddynt ddangos diddordeb mewn bod yn weithwyr yn y dyfodol a chyflwyno potensial.Ěý Ěý Ěý Ěý Ěý Ěý Ěý Ěý ĚýĚý

Dywedodd Ann Roberts:

“Bu’r arweinwyr ifanc yn gweithio ar bynciau amrywiol gan gynnwys gwerthoedd ac egwyddorion Gwaith Ieuenctid, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, cyfleoedd cyfartal, anghenion pobl ifanc a chyfathrebu. Fe wnaethant hefyd gwblhau deg awr wyneb yn wyneb o fewn lleoliad gwaith Darpariaeth Ieuenctid i ennill profiad. Yn ystod eu profiad gwaith, dysgasant sut i gwblhau cynlluniau sesiwn ac asesiadau risg a buont wrthi’n cynllunio a chynnal gweithgaredd i bobl ifanc.”Ěý

Cyflwynodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid dros dro Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard, y gwobrau a dywedodd:

“Mae hwn yn llwyddiant arbennig ac yn ddull arloesol i fynd i’r afael â’r angen am arweinwyr ieuenctid cymwysedig yn y dyfodol. Rydym eisiau i bobl ifanc fod yn ymwybodol bod hwn yn llwybr gyrfaol gwerthfawr a chyffrous. Rwyf yn arbennig o falch ein bod ni wedi gallu blaenoriaethu’r buddsoddiad hwn mewn gwaith ieuenctid, a hynny mewn cyfnod lle mae bob gwasanaeth ar draws y Cyngor, gan gynnwys y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig wedi gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd ariannol sylweddol dros y tair blynedd diwethaf o ganlyniad i’r hinsawdd economaidd heriol. Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn dyfodol Gwasanaethau Ieuenctid yn Sir y Fflint."

Ategodd Uwch-ddarlithydd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Hayley Douglas:Ěý

“Mae helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ieuenctid a chymunedol yn ganolog i’r gwaith yr ydym yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam.ĚýNid yn unig y mae hynny’n cynnwys ein rhaglen gradd a addysgir, ond mae hefyd yn cynnwys prosiectau fel hyn, gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned ac ochr yn ochr â phartneriaid megis Cyngor Sir y Fflint.Ěý

“Mae’r gwaith hwn - sy’n helpu i amddiffyn darpariaeth gwasanaeth ieuenctid mewn ffordd arloesol - wedi profi'n werthfawr i ni fel staff yn ogystal â'r bobl ifanc yr ydym wedi gweithio â hwy, a dylai pob un ohonynt fod yn falch iawn o'u llwyddiannau."

Nawr eu bod nhw wedi cwblhau’r cwrs, caiff y bobl ifanc eu hyfforddi a’u mentora gan swyddogion Darpariaeth Ieuenctid Integredig ac fe'u hanogir i wneud cais am unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol, boed hynny yn wirfoddol neu gyda thâl.