Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymru i groesawu dau gymal o Daith Prydain Lloyds i Ferched 2026
Published: 18/06/2026
Mae鈥檙 lleoliadau a fydd yn croesawu Taith Prydain Lloyds i Ferched 2026 wedi cael eu datgelu a bydd y trydydd a鈥檙 pedwerydd cymal yn mynd trwy Gymru ddydd Gwener a dydd Sadwrn 21 a 22 Awst, gyda chymalau o鈥檙 Wyddgrug i鈥檙 Gogarth yn Llandudno ac o Lanidloes i鈥檙 Gelli Gandryll yn y drefn honno.
Bydd rhifyn 2026, sy鈥檔 rhan o Daith y Byd UCI i Ferched, yn dod i鈥檙 Wyddgrug ar gyfer y trydydd cymal ddydd Gwener 21 Awst. Dyma鈥檙 tro cyntaf i ras Taith gychwyn yn yr Wyddgrug, ond mae Sir y Fflint wedi croesawu cymalau yn ras y dynion yn y gorffennol. Fodd bynnag, hwn fydd y tro cyntaf i鈥檙 ardal groesawu ras y merched.
Daeth Lotte Kopecky yn fuddugol ar y promen芒d yn Llandudno yn 么l yn 2024, sef y tro diwethaf i gymal orffen yn y dref glan m么r. Gyda'r Gogarth yn cynnig dringfa olaf fryniog i'r beicwyr blaenllaw, mae'r rhanbarth yn darparu cwrs heriol a thrawiadol, gan ddod ag atgofion yn 么l o 2021, pan frwydrodd Julian Alaphilippe a Wout van Aert am fuddugoliaeth ar y penrhyn yn Nhaith y dynion.
Ar 么l cynnal cymalau rasys merched a dynion yn y rhanbarth ers 2010, bydd Powys yn croesawu beicio cyffrous ar hyd ei ffyrdd unwaith eto ym mis Medi. Bydd Llanidloes a'r Gelli Gandryll, sydd hefyd yn enwog am Wyl y Gelli Gandryll, yn lleoliadau newydd sbon ar gyfer cynnal dechrau a diwedd y Daith.
Yn y Trallwng, Powys hefyd bydd cymal tri Grand D茅part y Tour de France yn 2027 yn cychwyn ar ddydd Sul 4 Gorffennaf 2027.聽 Bydd Taith Prydain Lloyds felly yn rhoi rhagflas o鈥檙 rhanbarth gyda rasys beicio o'r radd flaenaf yr haf hwn.
Mae cynnal digwyddiadau beicio mawr fel Taith Prydain Lloyds i Ferched yn rhan o bartneriaeth a gytunwyd rhwng British Cycling, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Conwy a Chyngor Powys i feithrin cysylltiadau beicio a thwristiaeth yn y rhanbarth.
Dywedodd Jonathan Day, Cyfarwyddwr Digwyddiadau British Cycling: 鈥淩ydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod 芒 ras fawreddog Taith Prydain Lloyds i Ferched i鈥檙 lleoliadau gwych hyn ym mis Awst. Am y tro cyntaf, mae鈥檙 un faint o gymalau yn y ras hon 芒 ras y dynion a gynhelir ychydig wythnosau'n ddiweddarach, felly mae'n gyfle enfawr i greu gwyl feicio go iawn, gyda ras y merched yn ddechreuad cyffrous i ychydig wythnosau o rasio elitaidd gwych.
鈥淩ydym yn cyflwyno lleoliadau a chymalau newydd yn yr Wyddgrug, Llanidloes, a鈥檙 Gelli Gandryll, ac mae鈥檔 wych dychwelyd i leoliadau blaenorol y Daith yn Cockermouth, Clitheroe, Blackpool, Llandudno a Leamington Spa, gan ddod ag amrywiaeth go iawn i鈥檙 cyrsiau wrth i ni deithio ar draws Cymru a Lloegr.
"Ar ran British Cycling Ventures, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'n partneriaid ar draws y pum cymal am eu cefnogaeth i gynnal a darparu鈥檙 ras nodedig hon ym mis Awst, a'n galluogi i ddod 芒 rasys o'r radd flaenaf i'w cymunedau dros bum diwrnod cofiadwy a llawn cyffro, gan ledaenu pleserau beicio ar hyd y llwybr, ac ysbrydoli mwy o bobl i fynd ar gefn feic a byw bywydau iachach."
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth:聽鈥淢ae hwn yn gyfle gwych i roi鈥檙 chwyddwydr ar Sir y Fflint ac arddangos popeth sydd gan ein sir i鈥檞 gynnig. Bydd yn denu ymwelwyr o bell ac agos wrth greu ymdeimlad gwirioneddol o gyffro a balchder yn ein cymunedau. Edrychwn ymlaen at groesawu cystadleuwyr a gwylwyr i鈥檙 Wyddgrug a helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Rwyf wrth fy modd yn cael croesawu Taith Prydain i Ferched yn 么l i Landudno. Dyma'r union fath o ddigwyddiad mawr sy'n arddangos popeth sy'n wych am ein hardal - ein lleoliad arfordirol godidog, ein croeso cynnes, a'n gallu i gynnal achlysuron chwaraeon o'r radd flaenaf. Rwy'n edrych ymlaen at groesawu beicwyr, timau a chefnogwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt."
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Rydym yn hynod falch o groesawu cymal pedwar Taith Prydain Lloyds i Ferched i Bowys.聽 Mae'n anrhydedd enfawr ac yn rhoi cyfle gwych i ni arddangos ein sir hardd a dod 芒 manteision economaidd i'n cymunedau trwy fwy o dwristiaeth.
鈥淕yda disgwyl miloedd o wylwyr a sylw yn y cyfryngau byd-eang, bydd yn fuddiol i fusnesau lleol a鈥檙 economi ymwelwyr, tra hefyd yn ysbrydoli mwy o bobl i fod yn egn茂ol a mwynhau seiclo. Wrth i ni edrych ymlaen at gynnal rhan o Grand D茅part y Tour de France yn 2027, mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i osod Powys yn gadarn ar y map fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr."
Gweler y rhestr lawn o gymalau isod:
Cymal 1: Cockermouth - Cockermouth
Cymal 2: Clitheroe - Blackpool
Cymal 3: Yr Wyddgrug i鈥檙 Gogarth, Llandudno
Cymal 4: Llanidloes i鈥檙 Gelli Gandryll
Cymal 5: Royal Leamington Spa 鈥 Royal Leamington Spa聽聽
Bydd ras y merched 2026 yn cychwyn yn Cockermouth gyda chwrs heriol o amgylch rhanbarth Cumberland cyn gorffen yn y dref farchnad brydferth hefyd. Bydd yr ail gymal yn llawn adloniant wrth i'r merched reidio o Clitheroe i dref glan m么r eiconig Blackpool, yng nghanol gwyliau'r ysgol. Bydd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn croesawu dau gymal cyffrous ar y dydd Gwener a鈥檙 dydd Sadwrn, yn rhedeg o'r Wyddgrug i'r Gogarth yn Llandudno ac o Lanidloes i'r Gelli Gandryll yn y drefn honno, cyn penderfynu ar y Dosbarthiad Cyffredinol yn Swydd Warwick, gyda鈥檙 ras yn dechrau ac yn gorffen yn Royal Leamington Spa ddydd Sul 23 Awst.
Dangosodd ymchwil British Cycling, a ddarparwyd gan GSIQ, fod Taith Prydain Lloyds 2025 wedi cael effaith economaidd gronnus gyffredinol o 拢62.3 miliwn yn yr ardaloedd lleol a gynhaliodd y deg cymal yn 2025, gan gael effaith gymdeithasol enfawr ar gymunedau ledled y wlad hefyd.聽
Bydd cyhoeddiadau pellach, gan gynnwys manylion y llwybrau ym mhum cymal ras y merched a ras y dynion, yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.聽
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Thaith Prydain? Gallwch gofrestru eich diddordeb a chwarae rhan yn y digwyddiad mwyaf y gellir ei wylio am ddim yn y DU.