ÌÇÐÄVlog

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn dangos cynnydd parhaus mewn datblygu gofal cymdeithasol i oedolion

Published: 18/06/2026

Mae datblygiadau cadarnhaol wedi eu nodi yn ystod ymweliad gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) â Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Sir y Fflint i wirio gwelliant.

Mae’r Cyngor wedi croesawu’r canfyddiadau sy’n amlygu cynnydd cadarnhaol a datblygiadau ar draws y gwasanaeth.

Roedd yr ymweliad gan AGC yn canolbwyntio ar ymateb yr awdurdod lleol i argymhellion blaenorol a’i ymrwymiad parhaus i ddarparu gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel i oedolion a’u gofalwyr.  Nododd arolygwyr welliant ym mhob maes, gan gynnwys darparu gwasanaeth, arweinyddiaeth a phrofiad cyffredinol unigolion sy’n derbyn cefnogaeth.

Nododd arolygwyr fod gwasanaethau yn cael eu harwain a’u darparu mewn cyd-destun o bwysau a heriau sylweddol, gan nodi arfer effeithiol a chadarnhaol mewn ystod o feysydd.  Ymysg y canlyniadau cadarnhaol a nodwyd gan AGC mae’r canlynol:

  • Gwasanaethau oedolion yn cael eu darparu gan weithlu ymroddgar a phrofiadol, wedi eu cefnogi gan arweinyddiaeth weledol sydd â ffocws clir ar ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Caiff pobl eu trin gydag urddas a pharch ac mae yna enghreifftiau o asesiadau o ansawdd da lle mae amgylchiadau pobl, eu hanghenion cyfathrebu a’u safbwyntiau yn cael eu deall yn dda.
  • Mae’r awdurdod lleol yn dangos ymrwymiad clir tuag at atal ac ymyrraeth gynnar, wedi’i gefnogi gan ystod o wasanaethau sydd wedi eu lleoli yn y gymuned. Mae cefnogaeth gynnar a hyblyg yn helpu i atal anghenion rhag gwaethygu a chynnal annibyniaeth pobl.
  • Mae arferion diogelu yn elwa o arweinyddiaeth brofiadol, perthnasoedd aml-asiantaeth cryf a diwylliant sy’n blaenoriaethu diogelwch a lles pobl. Mae ymarferwyr yn aml yn ymateb yn gymesur i risg, gan adnabod patrymau o bryder a gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid.

Cadarnhaodd AGC fod yr awdurdod lleol wedi gweithredu i fynd i’r afael â’r holl feysydd a nodwyd yn yr arolwg blaenorol ac mae wedi dangos cynnydd ym mhob maes.  Mae AGC wedi gwneud argymhellion i gefnogi’r cam nesaf yn nhaith yr awdurdod lleol tuag at welliant sy’n canolbwyntio ar sicrhau fod ymarfer yn gyson, cynaliadwy ac wedi ei wreiddio’n llawn ar draws y gwasanaeth wrth i’r awdurdod lleol ymateb i alw cynyddol ac anghenion sy’n gynyddol gymhleth.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles: “Rydym yn falch fod AGC wedi cydnabod y cynnydd a wnaed ar draws y Gwasanaethau Oedolion. Mae’r gwelliannau hyn yn adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled ein staff sy’n parhau yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel.

"Er ein bod yn cydnabod fod yna fwy i’w wneud bob amser, mae’r adroddiad hwn yn dangos cyfeiriad cadarnhaol a’n ffocws parhaus ar gyflawni’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y bobl rydym yn eu cefnogi.â€

Dywedodd Craig Macleod, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae canfyddiadau AGC yn darparu sicrwydd ein bod yn cymryd y camau cywir i wella a datblygu ein gwasanaethau.

"Wrth i ni symud ymlaen byddwn yn canolbwyntio ar wreiddio’r gwelliannau hyn, cryfhau ein prosesau sicrwydd ansawdd, buddsoddi mewn datblygu’r gweithlu a gweithio’n agos gyda phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau i siapio darpariaeth yn y dyfodol.

"Yn hollbwysig rydym yn parhau i ganolbwyntio’n gadarn ar dargedu ein hadnoddau cyfyngedig i gefnogi preswylwyr sydd wedi eu hasesu fel unigolion sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys, gan sicrhau eu bod yn derbyn gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn."