Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer datblygu cynllun creu lleoedd canol tref
Published: 13/03/2024
Mae Cyngor Sir y Fflint ar fin lansio cyfres o arolygon ymgynghori cyhoeddus, lle anogir pobl leol i helpu i siapio dyfodol ein pedwar canol tref: Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry.
Maeâr gweithgaredd ymgynghori cynlluniedig yn rhan oâr broses i ddatblygu saith âCynllun Creu Lleoeddâ ar gyfer canol trefi yn y deunaw mis nesaf. Dechreuodd y gwaith ar y Cynlluniau Creu Lleoedd yn 2023 ar gyfer trefi Bwcle, Treffynnon a Shotton, mewn ymateb i gysyniad Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer trefn cwblhauâr cynlluniau.
Mae gweithgarwch datblygu Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan DĂŽm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag ystod o wasanaethau eraill y cyngor a sefydliadau partner allanol. Mae hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru fod holl awdurdodau lleol ar draws Cymru i sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd aâr Economi:Â âYn debyg i nifer o drefi ar draws y wlad, mae strydoedd mawr Sir y Fflint wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil newidiadau i arferion siopa a phandemig covid-19.
âMaeân bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer trefi ar draws Sir y Fflint gan eu bod yn allweddol i ddenu prosiectau buddsoddi yn y dyfodol a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol ar bobl leol aân heconomi leolâ.
Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, amlinellu blaenoriaethau a all helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad a cheisio mynd iâr afael ag anghenion y bobl syân byw, gweithio ac yn ymweld ââr trefi. Mae datblygiad y cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd ar gyfer ystod o fudd-ddeiliaid i gydweithio er mwyn darparu gwelliannau.
Bydd gan bobl leol syân byw neu weithio mewn neu ger Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry, gyfle i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am eu canol trefi o 13 Mawrth 2024 i 1 Ebrill 2024.
Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth.
Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd aâr Economi: âYn dilyn mwy na 4440 o ymatebion iâr ymgynghoriadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer Bwcle, Treffynnon a Shotton, a gyflawnwyd yn 2023, mae gwaith yn parhau i ddatblyguâr tri yma yn y Cynlluniau Creu Lleoedd.
âUnwaith iâr cynlluniau hyn gael eu datblygu, byddent yn cael eu rhannu gydaâr cyhoedd ar gyfer ymgynghoriad pellach cyn cael eu hystyried ar gyfer mabwysiadu gan y Cyngor aâi bartneriaid allanol syân rhan oâr gwaith Creu Lleoedd. O ystyried y cynnydd a wnaed ar y 3 Cynllun Creu Lleoedd dechreuol, bydd ymgynghoriad yn dechrau gyda chymunedau Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry.â
Yn dilyn yr ymgynghoriadau ar-lein sydd ar y gweill, bydd cyfres o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ymhob tref. Bydd mwy o wybodaeth ar ddyddiadau a lleoliadauâr digwyddiadau hyn yn cael eu rhyddhauân fuan.