Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dadgymhwyso TAN1
Published: 18/06/2018
Gofynnir iâr Cabinet gymeradwyoâr sail ar gyfer ymateb cadarn i Lywodraeth
Cymruân cefnogi dadgymhwyso paragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN1),
pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 19 Mehefin.
Maeâr cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddadgymhwyso paragraff 6.2 yn cael
cefnogaeth lawn, a bydd Cyngor Sir y Fflint yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau y symudir ymlaen ag adolygiad cynhwysfawr ac eang, cyn gynted â
phosibl.
Byddai hyn yn lleihauâr pwysau syân gysylltiedig â diffyg cyflenwad tir pum
mlynedd, wrth ystyried ceisiadau ar gyfer datblygiad tai ar hap. Byddai hyn
yn cyfrannu dipyn at liniaru rhai or pwysau eithafol syn wynebur Cyngor ai
gymunedau ar hyn o bryd, wrth orfod derbyn datblygiadau ar hap.
Tra bod Sir y Fflint ar hyn o bryd yn un o bedwar Awdurdod Cynllunio Lleol na
all ddangos cyflenwad pum mlynedd, gan nad ydynt â Chynllun Datblygu Lleol
wediâi fabwysiadu, oâr 21 Awdurdod Cynllunio Lleol sydd â Chynllun Datblygu
Lleol, dim ond chwech syân gallu dangos cyflenwad tir pum mlynedd. Mae hyn yn
dangos yn glir nad yw cael Cynllun Datblygu Lleol wedii fabwysiadu yn
âsicrhauâ cyflenwad pum mlynedd, ac yn fwy sylfaenol, mae rhywbeth yn amlwg oâi
le gydaâr dull cyfredol a gymerir gydaâr dull polisi TAN1.
Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar
gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
âDiolch iâr drefn, maeâr materion aâr pwysau ar Awdurdodau Cynllunio Lleol a
chymunedau wediu creu gan y polisi presennol bellach wediu cydnabod gan
Lywodraeth Cymru. Maeâr Cyngor yn cytuno gydar bwriad i ddadgymhwyso, ac yn
ei gefnogiân llawn, ond mae angen i hyn ddigwydd, nid yn unig am hyd yr alwad
am dystiolaeth, ond hyd nes bydd canlyniad oâr adolygiad yn hysbys. Bydd hyn
yn lliniaru dipyn ar y pwysau rydym yn ei brofi ar hyn o bryd, i dderbyn
datblygiad ar hap yn ddiamod, fel y penderfyniad diweddar iawn i gymeradwyoâr
datblygiad o 186 uned ym Mhenymynydd, a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Maeâr Cyngor â nifer o geisiadau ar hap ar y gweill, ac sydd eto i fod yn
destun penderfyniad, i gael 1,037 o unedau eraill mewn rhannau amrywiol oâr
Sir.â
Bydd hyn hefyd yn galluogiâr Cyngor i gynnal ei ffocws o symud ymlaen ââr
Cynllun Datblygu Lleol, sydd mewn cam critigol o ran paratoi cynllun adneuo,
lle maeân rhaid iâr Cyngor wneud penderfyniadau am ddyrannu safleoedd digonol a
chynaliadwy i fodloni gofynion tair cynllun.