Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gadael hoel pawen ar y palmentydd yn unig
Published: 14/12/2022

Mae plant o ddwy ysgol yn Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd gydaâr Cyngor i godi ymwybyddiaeth ynghylch problem baw cwn yn Central Park a Golftyn Park, Cei Connah.
Ar y cyd gyda Chadwch Gymruân Daclus, ac i adlewyrchu ar eu âhymgyrch mewn bag mewn binâ, bu i ddisgyblion o Ysgol Bryn Deva ac Ysgol Golftyn gymryd rhan mewn digwyddiadd treialu i annog perchnogion cwn i lanhau ar Ă´l eu cwn.ĚýĚý
Bu i blant awyddus gyda chymorth swyddogion gorfodi amgylcheddol a chynghorwyr lleol gerdded drwyâr parc, gan arsylwi ar ethos âpeidiwch â chyffwrdd, dweudâ a phwyntio ar faw ci, fel bod yr oedolion yn marcioâr man gyda baner.Ěý ĚýBu iâr plant helpu rhannu neges âmewn bag, mewn binâ a âgadael hoel pawen yn unigâ gyda chwistrell sialc golchadwy, pydradwy ar y palmentydd, gan arwain perchnogion cwn tuag at y biniau priodol. Cafodd y plant gyfle i glywed gan Groundwork Gogledd Cymru a phreswylwyr lleol ynghylch y broblem o faw cwn a sut maeân effeithio ar eu bywydau aâr amgylchedd. Roedd perchnogion cwn lleol yn ddiolchgar o gael bagiau baw cwn am ddim ac arwyddion âgoleuo yn y tywyllwchâ i amlyguâr biniau yn ystod oriau tywyll y gaeaf.Ěý Cafodd llawer iawn o faw ci a amlygwyd eu glanhau yn nes ymlaen gan y Cyngor.
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes:Ěý
âMae baw ci yn parhau i fod yn broblem yn Sir y Fflint. Er fod nifer oân perchnogion cwn yn glanhau ar Ă´l eu cwn, rydym yn cefnogiâr ymgyrch hwn i apelio gydaâr lleiafrif bychan o berchnogion cwn anghyfrifol i gadw ardaloedd cyhoeddus yn lân rhag baw cwn.â
Maeddai Jemma Bere, Rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymruân Daclus:
âEr bod oddeutu naw o bob deg perchennog cwn yn glanhau ar Ă´l eu hanifeiliaid, mae baw cwn yn dal i fod yn broblem barhaus mewn cymunedau ledled y wlad. Gall baw ci fod yn beryglus i iechyd pobl ond hefyd i nifer o anifeiliaid eraill.Ěý
Er mwyn hyrwyddo perchnogaeth cwn cadarnhaol a chyfrifol iâr lleiafrif o berchnogion cwn nad ydynt yn codi baw eu hanifeiliaid anwes, mae olion pawennau pinc llachar yn cael eu paentio ledled Cymru i arwain pobl at y bin agosaf. Ynghyd ââr olion pawennau trawiadol hyn mae sticeri bin ac arwyddion iâw gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ddod o hyd i fin baw cwn a gwneud y peth iawn.â
Dywedodd Ene o Ysgol Golftyn: âIâr bobl hynny sydd ddim yn glanhau ar Ă´l eu cwn, plĂŽs wnewch chi oherwydd petaech CHIâN sefyll ynddo, ni fyddech CHI yn ei hoffi.â
Dywedodd Lexie o Ysgol Golftyn: âMae llawer iawn o faw ci yn Golftyn Park, i ddweud y gwir bu i rywun adael iâw ci faeddu tra roeddem ni yno! Maeân afiach chwarae yno gydaâr holl lanastâ.
Ěý
Ěý
Ěý