Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adfywio blaendraeth y Fflint
Published: 15/06/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint dderbyn yr adroddiad dichonolrwydd ar
adfywiad Blaendraeth y Fflint, ac i symud ymlaen â gwaith mwy manwl pan fyddant
yn cyfarfod yn hwyrach ymlaen y mis hwn.
Gofynnir iddo hefyd dderbyn adroddiad Ymchwil a Datblygiad Celf Castell y
Fflint, a datblygu darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint, neu oâi
gwmpas.
Mae cam nesaf adfywiad y Fflint wediâi gyflawni gan Gyngor Sir y Fflint a
Chyngor Tref y Fflint, gydar ddau yn ffurfio Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda
Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y
Fflint:
âMae canlyniadauâr ddau adroddiad yn gyffrous ac yn dangos bod y cyfleuster
arfaethedig yn gwedduân dda gydag anghenion pobl leol ac ymwelwyr. Mae pobl
leol yn falch o hanes y dref ac maen nhw eisiau rhoiâr Fflint âar y mapâ â
gallai gosodiad celf helpu i gyflawni hyn. Mae Afon Dyfrdwyân rhan allweddol o
hanes y dref, gyda themâu cryf yn dod iâr amlwg gyda âlle i fyw a gweithioâ,
âlle i chwarae a lle i fod yn falch ohono ai werthfawrogi.â
Dywedodd y Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y
Fflint:
âMaeâr adroddiad dichonoldeb yn cynnwys gwaith manwl ar gyfleuster ar y cyd, a
chanolfan ymwelwyr yn gyfagos iâr castell yn cael ei rannu ai weithredu gan
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Clwb Rygbiâr Fflint a Chlwb PĂŞl-
droed y Fflint. Maeâr adroddiad celf, ar Ă´l ymchwil ac ymgysylltiad â
phreswylwyr lleol ac ysgolion, yn nodi themâu allweddol ar gyfer darn mawr o
gelf yng Nghastell y Fflint, neu oi gwmpas.
âRydym yn argymell cynnydd ar y ddau ddarn yma o waith, gan gydnabod mai dim
ond un oâr partneriaid ywâr Cyngor, ac y bydd cynnydd yn amodol ar gytundeb y
partner arall.â
Fel rhan oâr Memorandwm o Ddealltwriaeth, mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i
ddod o hyd i gyllid yn 2018/19 i ariannuâr cam nesaf oâr ddau ddarn o waith.