Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datgelu Hanes y Gweithfeydd Dur
Published: 22/05/2018
Fe fydd arddangosfa newydd sbon yn ymwneud ââr gweithfeydd dur yn cael ei
datgelu ddydd Iau, 24 Mai am 2.00pm yn y Quay Watermenâs Association (QWA)
Canolfan Dreftadaeth y Kathleen and May, Dock Road, Cei Connah.
Fel rhan o gynllun âRhoiâr Cei yn Ă´l yng Nghei Connahâ Cronfa Dreftadaeth y
Loteri a sicrhawyd gan y QWA, mae Dur Tata yn cyfrannu bwrdd hanes dur 3m x 1m
gyda lluniau oâr cludo dur ar longau ar Afon Dyfrdwy.
Mae cyn weithwyr dur wedi eu gwahodd i ddod draw i gwrdd â hen gydweithwyr a
staff newydd wrth i Ddur Tata ymuno ââr QWA a Chyngor Sir y Fflint i ddarparur
dehongliad mwyaf cyfredol o dreftadaeth ddur Sir y Fflint i ymwelwyr a phobl
leol.
Dywedodd Cadeirydd y QWA Paula Ellis:
âRydym yn ddiolchgar iawn i Ddur Tata am gyfrannuâr panel gwybodaeth hwn ac am
gefnogiâr QWA yn ein hymdrechion treftadaeth a chymunedol.
âMae Canolfan Dreftadaeth y QWA yn edrych dros yr afon aâr gweithfeydd dur ac
felly dymar lleoliad gorau yn Sir y Fflint i ganfod mwy am Dreftadaeth
Ddiwydiannol y sir wrth ymlacio gyda phaned o goffi a darn o gacen yn ein caffi
bendigedig.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac
aelod lleol:
âDymaâr tro cyntaf i ni allu arddangos gwybodaeth am wreiddiauâr diwydiant dur
ar Lannau Dyfrdwy ac rydym yn falch iawn o gefnogir QWA Tata wrth iddynt
ddarparuâr cyswllt hwn in cymunedau ei fwynhau drwy Brosiect Cronfa
Dreftadaeth y Loteri an Gwasanaeth Cefn Gwlad.â
âDwiân siwr y bydd nifer o weithwyr dur presennol a chyn weithwyr dur, pobl
leol ac ymwelwyr syn defnyddio Llwybr Arfordir Cymru wrth eu bodd gydaâr panel
aâr amlygrwydd maeân ei roi i dreftadaeth ddiwydiannol falch yr ardal.â
Dywedodd Bill Duckworth, Rheolwr Safle Dur Tata:
âMaeâr diwydiant dur yng Nglannau Dyfrdwy wedi newid yn sylweddol dros y
blynyddoedd, ond yr hyn sydd wedi bod yn gyson ywr cysylltiad cryf gydag Afon
Dyfrdwy ar rĂ´l y mae wedi ei chwarae yn y diwydiant.
âMae Dur Tata yn Shotton yn hynod o falch o allu cefnogi Canolfan Dreftadaeth y
QWA drwy gyfrannur bwrdd hanesyddol a fydd yn helpu cenedlaethaur dyfodol i
ddeall beth arferai ddigwydd yma ar rĂ´l bwysig mae wedi chwarae yn llunior
gymuned hon.
Yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd cyfres newydd o baneli hanesyddol wedi eu
lleoli ar hyd glannaur Afon Dyfrdwy yn cael eu hychwanegu a fydd yn ymdrin â
masnach, pysgota, treftadaeth a bywyd gwyllt. Cadwch olwg am y Penwythnos
Celfyddydau Morwrol ar Fehefin 2 a 3 a chyfres o weithgareddau ar Ă´l ysgol a
fydd yn dod ag Afon Dyfrdwy yn Ă´l ir gymuned.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mike Taylor Ceidwad Arfordirol ar 07711 438127
neuâr QWA ar 01244 818029.