Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mynegi Awtistiaeth
Published: 18/04/2018
Mae arddangosfa ffotograffig i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o Awtistiaeth yn
cael ei chynnal yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug. Maeâr arddangosfaân seiliedig ar
waith ffotograffig ysbrydoledig Ken Ashton, artist lleol a gafodd ddiagnosis o
Awtistiaeth yn ddiweddar wedi iddo gael trafferthion blaenorol yn ffitio i mewn
i waanaethau cymunedol.
Mae Ken yn wirfoddolwr allweddol yn natblygiad Gwasanaethau Awtistiaeth
Integredig Gogledd Cymru (GAI/IAS), menter unigryw gan Lywodraeth Cymru a fydd
yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2018. Mae Ken hefyd yna awyddus i
gyd-artistiaid gysylltu ag ef gydaâr nod o greu Canolbwynt Artistiaid a gellir
cysylltu ag ef ar www.sygibney.com
Meddai Neil Ayling, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol;
âCyngor Sir y Fflint fydd yr awdurdod lleol âlletyolâ yng Ngogledd Cymru ar
gyfer y TĂŽm GAI a fydd hefyd yn gwasanaethu Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy,
Gwynedd ac Ynys MĂ´n. Bydd y TĂŽm GAI yn rhoi gefnogaeth i bobl Awtistig o bob
oed aâu teuluoedd aâu gofalwyr.
âTra bydd y GAI ar gael i bobl o bob oed ni fydd yn disodli unrhyw wasanaethau
sydd eisoes wedi eu sefydlu, ac nid yw ychwaith yn wasanaeth argyfwng. Bydd y
TĂŽm GAI hefyd yn anelu at ddarparu hyfforddiant a chyngor am Awtistiaeth i
amrywiaeth o wasanaethauâr cyngor ac asiantaethau partner.
Meddaiâr Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau
Cymdeithasol:
âFe wnaeth Ken yn garedig iawn ganiatĂĄu i ni ddefnyddio peth oâi waith i
hyrwyddo ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn Sir y Fflint a Gogledd Cymru gydaâr nod
o wneud i bobl feddwl am gyfarfod, gweithio gyda neu fod yn gyfaill i rywun
gydag Awtistiaeth yn y gobaith y bydd Awtistiaeth yn cael ei ddeall yn well aâi
dderbyn mewn cymunedau ar draws y rhanbarth er mwyn galluogi pobl i
integreiddioân fwy cadarnhaol.â
Meddai Ken Ashton;
âErs y llynedd rwyf wedi bod yn rhan o helpu i sefydluâr GAI ac rydw i eisiau
gweithio gyda gwasanaethau er mwyn helpu iâw gwneud nhwân fwy hygyrch i bobl
fel fi sydd ag Awtistiaeth. Gall 5% o ymdrech gan y gwasanaethau wneud 100% o
wahaniaeth o safbwynt helpu i integreiddio pobl gydag awtistiaeth yn y
gymuned.â
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Awtistiaeth ar wefan Gwybodaeth GAI
Cymru: http://www.asdinfowales.co.uk/
Nodyn i Olygyddion
Yn y llun atodedig mae;
Oâr chwith iâr dde: Cynghorydd Wisinger; Neil Ayling, Prif Swyddog y
Gwasanaethau Cymdeithasol; Jo Taylor, Rheolwr y Gwasanaethau Cymdeithasol;
Melanie Hough; yngh Christine Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau
Cymdeithasol a Joanne Sefton, myfyriwr gwaith cymdeithasol.