Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dangosiad ffilm lwyddiannus o hen ffefryn
Published: 13/10/2017
Cafodd ddangosiad ffilm o hen ffefryn yn Sinema Fflint yn ddiweddar.
âSinging in the Rainâ oedd yr ail dro i Grwp Llywio Cymunedau syân Gyfeillgar i
Dementia wahodd pobl iâr sinema.
Yn ddiweddar cafodd Sinemar Fflint ei achredu gan y grwp am y camau y maent
yn eu cyflawni i drefnuâr ffilmiau sydd yn gyfeillgar i ddementia.
Roedd y digwyddiad yn agored i bawb ond roedd croeso pennaf i fynychwyr caffi
cofio yn Sir y Fflint a phobl sydd yn byw gyda dementia o Fflint a chartrefi
gofal lleol.
Bu i bawb a oedd yn bresennol fwynhau profiad o sinema glasurol hen ffasiwn;
gyda thywyswyr yn mynd â phobl iâw seddau gyda golau bach, gwerthu popcorn ar
hambyrddau, ac egwyl a hufen ia. Hefyd bu iddynt fwynhau canu gydaâr ffilm,
roedd cymorth yno ac roedd hiân dawelwch nar arfer a digon o olau. Roedd nifer
o bobl yn cofioân Ă´l iâr sinema a phryd y gwnaethant fynychuâr tro diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
âMaeâr digwyddiadau hyn yn cynnig profiad gwych i bobl gyda dementia aâu
gofalwyr, ac yn gwellaâr gwaith da sydd yn cael ei wneud yn Sir y Fflint iw
helpu iw cefnogi.
Roedd y sylwadau ar Ă´l y digwyddiad yn cynnwys:
âPrynhawn hyfryd! Popcorn, canu, ac ychydig o ddawnsio yn ein seddau! Rwyf yn
hoffiâr cymysgedd o seddi cyfforddus aâr soffas, prynhawn hyfryd gan bawb,
diolch i aelodau eraill y pwyllgor llywio am drefnu hyn.
âPrynhawn hyfryd... rwyân dal i siarad amdano! Diolch am y gwahoddiad... rydym
i gyd yn edrych ymlaen at y âprynhawn o ffilmâ nesafâ.
Ffilm nesaf dydd Gwener, 1 Rhagfyr lle bydd y ffilm White Christmasâ yn cael
ei ddangos am 1pm.