Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae fy nheulu iân maethu
Published: 03/10/2017
Mis Meibion a Merched: dathlu teulu maeth yw ymgyrch flynyddol Rhwydwaith
Maethu i ddathluâr cyfraniad hanfodol y mae plant gofalwyr maeth yn ei wneud i
ofal maeth llwyddiannus.
Bob blwyddyn, mae gwasanaethau maethu ledled y DU yn cynnal digwyddiadau a
gweithgareddau i gydnabod plant a phobl ifanc aâr rĂ´l bwysig maen nhwân chwarae
wrth groesawu plant maeth iâw teuluoedd.
Bydd tĂŽm maethu Cyngor Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth ar 7 Tachwedd am
7pm yng Ngwesty Springfield, Treffynnon, gan gynnig cyfle i ddod o hyd i fwy o
wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth.
Mae cant a dau ddeg pedwar o deuluoedd lleol yn maethu gyda Chyngor Sir y
Fflint. Mae eu plant eu hunain, yn ogystal ââr plant maeth, yn byw gyda tua
traean o ofalwyr maeth Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
âMae plant gofalwyr maeth yn chwarae rĂ´l bwysig yn croesawu plant maeth iâw
teuluoedd a sicrhau lleoliadau maeth llwyddiannus.
âMae llawer o bobl yn dweud maiâr effaith bosib ar eu plant eu hunain yw un oâr
prif rwystrau i ddod yn ofalydd maeth. Y realiti yw bod nifer o blant yn elwa
o fod yn rhan oâr rhwydwaith gefnogi syân cael ei chynnig gan deulu maeth i
blentyn maeth. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad gwerth
chweil a gall helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn.â
Dywedodd Janette, gofalwr maeth Sir y Fflint:
âMae fy meibion fy hun wedi bod yn faethwyr ifanc ers nifer o flynyddoedd ac
wrth fynychu digwyddiadau grwp, maen nhwân cael y cyfle i gyfarfod maethwyr
ifanc eraill ac yn ogystal â hynny, maer digwyddiadauân gwneud iddyn nhw
deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o deulu ehangach yn y rĂ´l
bwysig maen nhwn ei wneud.â
Dywedodd Debra, gofalwr maeth arall yn Sir y Fflint:
âMaeâr grwp maethu ifanc yn grĂŞt. Mae ein plant yn mwynhauâr diwrnodau gwych.
Nid yn unig maen nhwân cael amser i fwynhau eu hunain, ond maen nhw hefyd yn
cael cyfle i gyfarfod â maethwyr ifanc eraill. Yn ddiweddar, buon nhw ar daith
i âTreetopsâ ym Metws-y-Coed ac fe gafon nhw ddiwrnod ffantastig, llawn hwyl.
Debra, Gofalwr Maeth Sir y Fflint.
Mae tĂŽm maethu Sir y Fflint yn cynnal grwp cefnogi ar gyfer meibion a merched
eu gofalwyr maeth ac yn trefnu taith llawn hwyl yn ystod gwyliauâr ysgol i
ddweud diolch. Eleni, maeâr grwp wedi mwynhau teithiau i fowlio deg, chwilfa
laser, go cartio a thaith haf i âTreetops ym Metws-y-Coed. Mae parti
anifeiliaid Calan Gaeaf wedi cael ei drefnu ar gyfer hanner tymor mis Hydref.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i www.flintshirefostering.org.uk neu
ffoniwch 01352 701965.