ÌÇÐÄVlog

Alert Section

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2026


Bob tair blynedd, mae angen i Gynghorau adolygu’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sydd ganddynt mewn grym. Mae Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus cyfredol Sir y Fflint ar Reoli Cŵn yn dod i ben ar 29 Hydref 2026 ac mae’r Cyngor yn gwahodd pobl i leisio barn ynghylch cadw’r cyfyngiadau presennol am dair blynedd arall ai peidio.

Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn un o nifer o bwerau a gyflwynwyd dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Eu bwriad yw atal unigolion neu grwpiau rhag ymddwyn mewn modd gwrth-gymdeithasol mewn man cyhoeddus sy’n cael, neu'n debygol o gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal. Mae’n rhaid i’r ymddygiad fod yn afresymol ac yn barhaus o ran ei natur.

Yn Sir y Fflint, ar hyn o bryd, mae’n rhaid i berchnogion cŵn:

  • Glirio baw eu ci yn syth mewn mannau cyhoeddus. 
  • Rhoi eu ci ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny. Mae hyn yn berthnasol ar dir cyhoeddus pan ystyrir bod ci allan o reolaeth neu’n achosi gofid.
  • Cadw cŵn ar dennyn mewn mynwentydd.
  • Sicrhau bod ganddynt ffordd o godi baw cŵn oddi ar y llawr.

Gwaherddir cŵn hefyd rhag cael mynediad i:

  • ardaloedd chwarae caeedig i blant
  • ardaloedd chwarae ar gaeau chwaraeon wedi eu marcio
  • yr ardal chwarae mewn cyfleusterau chwaraeon neu hamdden penodol 
  • safleoedd ysgolion
  • lleoliadau penodol yn y sir. 

Gallai methu â chydymffurfio â’r uchod arwain at gyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig i’r sawl sy’n gyfrifol am y ci.

Rydym yn gwerthfawrogi eich barn a byddem yn ddiolchgar pe byddech yn ymateb i’n harolwg. 

 

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 24/06/2026

    Dyddiad cau: 24/07/2026

  • Manylion cyswllt
  • Diogelwch Cymunedol

    E-bost: communitysafety@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01792 002129