ÌÇÐÄVlog

Alert Section

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Alcohol 2026


Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn un o nifer o bwerau newydd a gyflwynwyd dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Fe’u lluniwyd i atal unigolion neu grwpiau rhag ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol mewn man cyhoeddus sy’n cael, neu'n debygol o gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd y bobl sydd yn yr ardal. Mae’n rhaid i’r ymddygiad fod yn afresymol ac yn barhaus o ran ei natur.

Yn 2017, cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Alcohol. Mae'r Cyngor bellach yn ymgynghori ynghylch ymestyn y gorchymyn presennol. 

Y gwaharddiadau a gynigir yw:  

(a)   mae unrhyw un sydd, heb esgus rhesymol, yn parhau i yfed diod feddwol mewn man cyhoeddus o fewn yr Ardal Gyfyngedig pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddo beidio, yn cyflawni trosedd. 

(b)   mae unrhyw un sydd, mewn man cyhoeddus o fewn yr Ardal Gyfyngedig, heb esgus rhesymol, sy’n methu ag ildio unrhyw ddiod feddwol sydd yn eu meddiant pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddo wneud hynny, yn cyflawni trosedd.  

(c)   mae’n rhaid i Swyddog Awdurdodedig sy’n gosod gofyniad o dan Erthygl 4(a) ac/neu 4(b) uchod ddweud wrth yr unigolyn bod methu â chydymffurfio â’r gwaharddiad ac/neu’r gofyniad, heb esgus rhesymol, yn drosedd.  

Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, felly llenwch ein harolwg ar-lein ar yr amodau Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 24/06/2026

    Dyddiad cau: 24/07/2026

  • Manylion cyswllt
  • Diogelwch Cymunedol

    E-bost: communitysafety@siryffint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01792 002129